First Tuesday of the month, 7.30pm (Manse, 58 King George V Drive)
practise your Welsh as part of the experience, or just listen in if you don’t feel confident enough to contribute.
Dyma farn rhai o’r bobl sy’n mynychu’r astudiaeth:
Carwyn Shires
“Rydw i’n astudio yng Nghaerdydd ac wedi dechrau mynd i’r astudiaeth Gymraeg. Dysgais Gymraeg fel ail iaith - does dim rhaid i chi siarad Cymraeg fel iaith gyntaf i ddod. Mae’r astudiaethau wedi bod yn fuddiol iawn. Rydym ni’n astudio’r llyfr Josua ar hyn o bryd.
Mae’r astudiaethau yn siawns da i ddefnyddio’ch Cymraeg ac i ddysgu mwy am Iesu. Felly - dewch!!”
Magwen Davies
“Mae’n braf cael astudio’r Beibl a thrafod y bennod dan sylw trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth fynd trwy benodau cyntaf llyfr Josua gwelwn ofal a ffyddlondeb Duw wrth Iddo arwain Ei bobl, a’r un Duw yw E heddiw! Mae canu’r emynau cyfoethog Cymraeg yn fendith hefyd.
Gan nad oes llawer ohonom mae’n gyfarfod cartrefol a chynnes.”
Cornerstone
Yn dilyn cyfnod yn gweithio gyda myfyrwyr tramor yng Nghaerdydd, mae Steve a Christine Owens bellach yn aelodau o staff Cornerstone, coleg hyfforddi WEC International yn yr Iseldiroedd. Bu Meirion Thomas yn eu holi am y gwaith.
Ben a Bethan Thomas - Rhaglen S4C
Ben a Bethan yn siarad am eu gwaith presennol
yng Nghricieth a’u gweinidogaeth yn Llundain
cyn hynny mewn rhaglen S4C,
“O Flaen dy Lygaid”.
