Cornerstone

Yn dilyn cyfnod yn gweithio gyda myfyrwyr tramor yng Nghaerdydd, mae Steve a Christine Owens bellach yn aelodau o staff Cornerstone, coleg hyfforddi WEC International yn yr Iseldiroedd. Bu Meirion Thomas yn eu holi am y gwaith.

Meirion Thomas: Adroddwch beth o’ch hanes cyn mynd i ‘Cornerstone’.

Steve and Chris OwensSteve Owens: Cefais fy magu yng Nghaerdydd a dod i adnabod yr Arglwydd trwy waith y ‘Crusaders’. Roedd dysgu’r Gymraeg yn weithgaredd amser rhydd pan oeddwn yn astudio Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Southampton. Yn y 1970au cynnar roedd modd gwrando ar Radio Cymru yn Lloegr ar y ‘Medium Wave’.

Christine Owens: Rwy’n Saesnes o Cheddar. Roedd Steve a minnau ar bwyllgor yr Undeb Cristnogol yn Southampton. Cefais fy ngwersi Cymraeg cyntaf yn Southampton gydag Ann Nott (Glyn Ogwr). Ar ôl priodi Steve ym 1975, buom yn byw ym Maesycwmer, a dysgu mewn nifer o ysgolion ym Morgannwg Ganol.

Steve Owens: Rhwng 1991 a 2006, cawsom ein cefnogi gan Eglwys Efengylaidd yr Heath, Caerdydd, i wneud gwaith bugeiliol ac efengylaidd ymhlith myfyrwyr tramor. Roeddem yn genhadon mewn ffordd, ond i’r maes cenhadol ddod atom ni. Roedd llawer o gyfleoedd i esbonio’r efengyl i bobl o bob cwr o’r byd. Ond erbyn 2006 roeddem yn teimlo bod yr amser wedi dod inni fynd ymhellach i’r maes na chanol ein dinas ni ein hunain!

Meirion Thomas: Beth yw hanes Cornerstone a pha fath o bobl sy’n gweithio ac yn astudio yn y coleg?

Steve a Christine Owens: Cornerstone yw un o’r pum coleg hyfforddi cenhadon sydd gan WEC International yn fyd-eang. Coleg hyfforddi cyntaf WEC oedd y Missionary Training College yn Glasgow. Tua deng mlynedd wedi i goleg Glasgow gau’i ddrysau, prynodd WEC yr adeilad presennol, cyn-leiandy mewn pentref yn nwyrain yr Iseldiroedd, nid nepell o’r ffin gyda’r Almaen. Dechreuodd y cyrsiau cyntaf ym 1989. Saesneg yw iaith timau rhyngwladol o genhadon, a Saesneg felly yw iaith Cornerstone. Daw’r mwyafrif o’n myfyrwyr heddiw o’r Iseldiroedd, yr Almaen, y Swistir a Corea, ond mae unigolion hefyd o Brydain, y Ffindir, Ynysoedd y Caribî a’r Unol Daleithiau. Fe hoffwn weld rhagor o fyfyrwyr o’r tu allan i orllewin Ewrop ond mae’n anodd i’r rhain gael visa. Mae’r staff yn dod o Brydain, yr Almaen a’r Iseldiroedd, a phawb bron wedi gweithio fel cenhadon.
Wedi cwrs o flwyddyn neu ddwy, bydd mwyafrif ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i waith cenhadol, rhai gyda WEC, ond nid pawb. Mae un teulu oedd yn agos atom yn ystod ein blwyddyn gyntaf newydd gyrraedd Pacistan i ddechrau eu tymor cyntaf o wasanaeth. Mae merch arall, a dreuliodd beth amser gyda’r eglwys Tsieineaidd yng Nghaerdydd, bellach yn astudio dwy iaith yn Asia er mwyn efengylu mewn gwlad gaeedig. Ni fydd llawer o’n cyn-fyfyrwyr yn ymddangos yn ein cylchgronau cenhadol, a hynny oherwydd eu bod yn gweithio mewn gwledydd caeedig.

Meirion Thomas: Sut ddaethoch chi yn ymwybodol o goleg Cornerstone, a beth oedd y camau wrth baratoi i fynd yno?

Steve a Christine Owens: Roedd sawl cyd-ddigwyddiad o dan reolaeth Duw. Dros y blynyddoedd roedd un cysylltiad personol agos rhyngom â WEC, sef Anne Kelland, a gafodd ei hanfon allan drwy WEC gan ein heglwys ym Maesycwmer, a hynny yr union fis y cyrhaeddom y pentref ym 1975.

Ym 2004 aethom ni a’n mab Daniel i Ganol Asia am dair wythnos gyda WEC Trek, yr adran sy’n trefnu ymweliadau cenhadol byr WEC. Yno fe gwrddom â nifer o genhadon oedd wedi cael eu hyfforddi yn Cornerstone, ac wrth sylwi ar eu hagwedd tuag at eu gwaith ac ymhlith eu cyd-weithwyr, roedd yn amlwg bod yr hyfforddiant yn Cornerstone yn eithaf arbennig. Ar ôl ein taith, fe gawsom ein ‘de-brief’ gyda Colin a Pauline Nicholas yng Nghasnewydd. Roedd yn naturiol felly, ddwy flynedd yn ddiweddarach, inni fynd yn ôl atynt am gyngor yngl?n â’r dyfodol. Ni wyddem ar y pryd fod Colin yn Gadeirydd Bwrdd Rheoli Cornerstone, a’i fod ar fin teithio i’r Iseldiroedd i drafod angen y coleg am staff newydd. Dair wythnos ar ôl ein e-bost cyntaf at Colin, roeddem wedi ymweld â’r coleg a chytuno i ymuno â’r staff. Bu farw Colin cyn inni ddechrau ar ein gwaith yn Cornerstone.

Meirion Thomas: Beth yw’r prif feysydd astudiaeth wrth hyfforddi cenhadon?

Steve a Christine Owens: Mae pedwar maes:

  • Diwinyddiaeth—mae’n holl bwysig i’r cenhadon wybod gwirioneddau sylfaenol yr efengyl.
  • Astudiaethau beiblaidd—nid cynnwys y Beibl yn unig ond hefyd sut i’w astudio. Cofiwch fod y cenhadon yn mynd i fyw mewn llefydd lle nad oes gweinidogaeth y gair bob Sul. Rhaid dysgu bwydo eu hunain a’r teulu.
  • Cyhoeddi’r efengyl yn rhyng-ddiwylliannol. Er enghraifft; efengylu, astudiaethau o grefyddau a diwylliannau eraill, sefydlu eglwysi sy’n gallu datblygu ac efengylu heb fod yn ddibynnol ar genhadon.
  • Datblygiad ysbrydol, a sgiliau cyd-fyw mewn cyd-destun diwylliannol newydd—er enghraifft, hyfforddiant personol, gweithio mewn tîm ac arweinyddiaeth.

Mae pob myfyriwr yn byw yn y coleg, ac mae pawb yn rhannu’r gwaith ymarferol yn y t?, y gegin a’r ardd. Felly mae pawb yn cael profiad o gyd-fyw a chyd-weithio ymhlith pobl o wahanol gefndiroedd. Mae’n bwysig dysgu sut i wynebu ‘culture shock’ ac mae’n well dioddef am y tro cyntaf mewn amgylchiadau lle mae staff profiadol ar gael i roi cyngor a chefnogaeth.

Meirion Thomas: Beth yw eich argraffiadau o’r Iseldiroedd a llewyrch yr efengyl a’r eglwys yno?

Y syndod cyntaf i ni oedd dysgu bod yr ardal hon o’r Iseldiroedd (i’r de o’r afonydd Waal a Maas) bron yn gyfangwbl Gatholig, ac mae dylanwad y ‘New Age’ yn gryf. Ychydig iawn o eglwysi Protestannaidd sydd yn ein hardal ni, ac mae’n anodd dod o hyd i eglwys sefydlog sy’n pregethu’r efengyl. Yng ngweddill y wlad mae ardaloedd lle mae crefydd ddiwygiedig yn gryf, lle r’ych chi’n dal i weld tyrfaoedd yn cerdded neu yn beicio i’r eglwys ar y Sul. O’n safbwynt ni yma yn y de-ddwyrain, does dim digon o brofiad gennym i roi ateb manwl i’r cwestiwn am lewyrch yr efengyl yn y wlad yn gyffredinol. Gallwn roi un argraff gadarnhaol, sef bod y Cristnogion o ddifrif ac yn ffyddlon i’w heglwysi, ac un argraff negyddol, sef bod diffyg pregethu efengyl o edifeirwch a ffydd bersonol.

Meirion Thomas: Wrth i nifer o ffrindiau ymrwymo i weddio drosoch a thystiolaeth y coleg, pa bethau y byddech yn hoffi eu rhannu?

Mae’r nifer o ddynion sy’n ymgeisio i astudio yn Cornerstone yn llawer is na nifer y merched. Gweddïwch ar i’r Arglwydd anfon dynion i’r maes cenhadol.

Mae’r problemau ariannol byd-eang yn ystod y misoedd diwethaf yn debyg o effeithio ar y rhai sy’n bwriadu dod i Cornerstone y flwyddyn nesaf, yn enwedig o Corea. Gweddïwch am gefnogaeth ddigonol i’r rhai sy’n paratoi ar gyfer gwaith yr Arglwydd.

Gweddïwch am effaith y coleg yn ein hardal ni o’r Iseldiroedd.

Gweddiwch y bydd y myfyrwyr yn elwa o’u cyfnod ar leoliad yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill. Mae rhai yn dod i Gymru; eraill yn mynd i Wcrain, Romania, De Affrica, y Dwyrain Canol, Canol Asia ac un wlad sydd yn hynod o beryglus ar hyn o bryd.

Mae cwrdd misol yng Nghaerdydd i weddïo dros waith Cornerstone. Am fanylion, neu i dderbyn llythyr gweddi Steve a Chris, anfonwch e-bost at owens109@btinternet.com

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn /Y Cylchgrawn Efengylaidd/, Gwanwyn 2009.

Meirion Thomas yw gweinidog Eglwys Efengylaidd Malpas Road, Casnewydd.